Rhif y ddeiseb: P-06-1377

Teitl y ddeiseb: Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd

Geiriad y ddeiseb:  

Dylid gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig Parc Solar Caenewydd; ar dir amaethyddol ar fferm o’r enw Penyfodau Fawr, Abertawe, SA4 4LN a'r ardaloedd cyfagos.

O ganlyniad i’r datblygiad hwn, bydd paneli solar yn gorchuddio rhan o’r fferm. Bydd yr effaith weledol ar ffordd ddynesu ger AHNE Gŵyr yn niweidiol.

Bydd yn cael effaith niweidiol hefyd ar fannau gwyrdd.

Bydd nid yn unig yn amharu ar harddwch naturiol; bydd yn effeithio ar adar sy'n nythu ar y ddaear ynghyd â llwybrau mudo rhywogaethau adar.

Ni ellir caniatáu i’r prosiect hwn fynd rhagddo.

Bydd fferm sy’n cynnig gwasanaethau hanfodol i’r gymuned leol yn cael ei newid yn sylweddol.

Bydd mannau gwyrdd yn cael eu colli.

Bydd yn effeithio ar gynefinoedd anifeiliaid.

Efallai bod y prosiect hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ynni adnewyddadwy gwyrdd, ond ni ellir caniatáu iddo fynd rhagddo. Bydd yr effaith ddilynol ar ffermio lleol, bywyd gwyllt a'r gymuned yn drech na'r angen i roi’r prosiect hwn ar waith.

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn yn ffurfiol i’r prosiect hwn beidio â chael ei gymeradwyo fel unrhyw fath o ddatblygiad.

* Cafodd testun y ddeiseb hon ei newid ers ei chreu i adlewyrchu gwybodaeth newydd am y cais.

 


1.        Cefndir

Ni all Ymchwil y Senedd roi cyngor ar achosion unigol, ond gall ddarparu rhywfaint o wybodaeth gyffredinol.

Mae Parc Solar Caenewydd yn brosiect arfaethedig i ddatblygu araeau paneli solar ffotofoltäig ar y llawr a seilwaith cysylltiedig yn Abertawe.

Mae’r datblygiad arfaethedig wedi cael ei dderbyn fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC), sy’n golygu mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar y cais cynllunio.

Rhaid i geisiadau DAC ddilyn proses statudol sy’n cynnwys cam ymgynghori ffurfiol cyn ymgeisio. Wedi hynny, rhaid i’r ymgeisydd lunio adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn ymgeisio a’i gyflwyno gyda’r cais cynllunio.

Cynhelir cam ymgynghori a chyhoeddusrwydd ffurfiol pellach ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).

Yna bydd PCAC yn penodi Arolygydd Cynllunio annibynnol i asesu'r cynnig. Bydd yr Arolygydd yn darparu adroddiad gyda chyngor ac argymhellion ar gyfer ystyriaeth gan Weinidogion Cymru. Gweinidogion Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau DAC.

Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru i roi neu wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer DAC. Dim ond ar sail anghyfreithlondeb, afresymoldeb neu amhriodoldeb gweithdrefnol y gellir herio penderfyniad. Mae’n rhaid cofnodi her o'r fath o fewn chwe wythnos i'r penderfyniad.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses DAC ar gael yn y Canllaw cyflym gan Ymchwil y Senedd ac yn y Canllawiau gan Lywodraeth Cymru.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd y Gweinidog atoch chi mewn perthynas â'r ddeiseb hon ar 21 Tachwedd 2023. Mae'r llythyr yn amlinellu'r broses DAC, fel uchod, ac yn nodi:

O ganlyniad i’m rôl fel Gweinidog sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau DNS, ni fyddai’n briodol i mi wneud sylwadau ar yr achos, er mwyn peidio â rhagfarnu’r penderfyniad terfynol ar y cais.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ac eithrio’r Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â’r ddeiseb hon, nid oes arwydd bod y Senedd wedi trafod Parc Solar Caenewydd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.